Deifio i mewn i Fywyd: Taith Gaynor gyda Hamdden Sir Benfro

Mae'r byd dyfrol yn un y mae cymaint o bobl yn ei gymryd yn ganiataol, ond nid yn Sir Benfro. Mae un unigolyn wedi ymgysegru i achos bonheddig o ddysgu pobl sut i nofio. Dewch i gwrdd â Gaynor Almond, sydd wedi ysbrydoli cannoedd o bobl i nofio yn ystod ei 50 mlynedd o wasanaeth gyda Hamdden Sir Benfro.

 

Dechreuodd taith Gaynor yn 1972, lle cafodd ei hun yn cymryd swydd fel achubwr bywydau yn y pwll awyr agored yn Aberdaugleddau, yn The Rath . Roedd yr hafau'n gynnes ac roedd Gaynor yn mwynhau ei hamser ac eisiau dysgu mwy.

 

Dechreuodd Gaynor weithio yng Nghanolfan Hamdden Aberdaugleddau yn 1974, lle ymrwymodd i bob agwedd ar y busnes a daeth yn athrawes nofio gymwysedig. Dyma le y dechreuodd ei hangerdd am ddysgu'r sgìl bywyd hollbwysig hwn i eraill.

 

Mae hi'n credu bod pawb, waeth beth fo'u hoedran neu gefndir, yn haeddu'r cyfle i ddysgu'r sgìl achub bywyd hwn. Nid meistroli technegau yn unig yw pwrpas ei dosbarthiadau ond meithrin hyder a meithrin parch dwfn at ddŵr.

 

Un o'r agweddau mwyaf gwerth chweil ar waith Gaynor yw gweld y trawsnewidiad yn ei myfyrwyr. O ddechreuwyr ofnus i nofwyr hyderus, mae hi'n eu harwain trwy bob cam gydag amynedd ac anogaeth. I rai, mae goresgyn eu hofn o ddŵr yn fuddugoliaeth ynddo'i hun, tra bod eraill yn darganfod angerdd newydd am chwaraeon dyfrol.

 

Mae effaith Gaynor yn ymestyn dros genedlaethau: mae llawer o’r bobl sydd wedi dysgu sut i nofio ganddi bellach wedi cael plant eu hunain ac felly mae'r cylch yn dechrau eto. Mae hi wedi dod â llawenydd i lawer o bobl sydd wedi mynd â'u nofio ymhellach ac sydd bellach yn aelodau o'n sgwad nofio sirol.

 

Wrth i sgil effeithiau ei dylanwad barhau i ledu, mae Gaynor yn parhau i deimlo’n ostyngedig yn wyneb y fraint o arwain eraill ar eu taith ddyfrol. Gyda phob plymiad i'r anhysbys, mae'n ailddatgan ei chred yng ngrym trawsnewidiol nofio a'r potensial di-ben-draw o fewn pob unigolyn. Mewn byd sy'n aml yn cael ei rannu gan rwystrau, mae neges Gaynor yn amlwg: rydym i gyd yn gallu dysgu sut i nofio.

 

Yn ddiweddar, dathlwyd 50 mlynedd o wasanaeth Gaynor, a'i hymroddiad i ddysgu nofio, gyda gwahoddiad i seremoni ym Mhalas Buckingham! Cafodd ei henwebu gan ei chyd-hyfforddwr nofio, Martin.

 

Yng ngeiriau Gaynor, “Dwi wir wedi mwynhau fy 50 mlynedd gyda Hamdden Sir Benfro a’r canolfannau dwi wedi gweithio ynddyn nhw, ar ôl gweld cymaint o bobl yn fy ngyrfa addysgu, a dwi’n teimlo anrhydedd wrth feddwl fy mod wedi helpu pobl mewn sawl ffordd.”

 

Ac yn ein geiriau ni, “diolch” Gaynor am bopeth rwyt ti wedi'i wneud, wrth arwain, dysgu a llawer mwy. Mae dy bersonoliaeth lawen yn gwneud ein canolfannau yn lleoedd gwych i fod. Hir oes i'r dyfodol a llawer mwy o nofwyr yn dod i'th wersi.

 

A picture of our Swimming Instructor Gaynor
Gaynor and her husband at Buckingham Palace
Gaynor with a member of staff at Buckingham Palace
Gaynor and her husband at Buckingham Palace