Aros yn ddiogel ar y traeth

Addysg

Rydym i gyd yn chwarae rhan i gadw'n traethau yn ddiogel ac yn lân. Y tro nesaf i chi ymweld, gall casglu pum darn o sbwriel helpu i wneud ein traethau yn lleoedd glanach a mwy diogel i ymweld â nhw.

Bob blwyddyn mae damweiniau, pobl yn boddi a digwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd ar ein traethau ac o gwmpas dŵr agored. Mae Hamdden Sir Benfro mewn partneriaeth â RNLI a Nofio Cymru yn cefnogi cyflawniad y pedair neges allweddol i ddiogelwch dŵr ac ymgyrch Arnofiwch i Fyw:

  1. Pwyllwch a meddyliwch: – a ydy hi'n ddiogel? Pa beryglon sydd yna? A oes yna achubwr bywyd?
  2. Arhoswch gyda'ch gilydd – arhoswch yn agos at deulu neu ffrindiau. Os ydych yn mynd ar eich pen eich hun, dywedwch wrth rywun i le yr ydych yn mynd a phryd y byddwch yn ôl.  Cariwch ffôn i ffonio am help.
  3. Arnofio – Arnofiwch i Fyw. Ymestynnwch allan mewn siâp seren ar eich cefn ac arnofio nes eich bod yn teimlo'n ddigyffro. Unwaith rydych yn ddigyffro, chwifiwch eich breichiau, gwaeddwch am sylw a nofiwch i ddiogelwch os gallwch.
  4. Ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am wylwyr y glannau. Gofynnwch am y gwasanaeth tân ac achub os ydych ar y tir. Ar ôl i chi ffonio am help, gwiriwch os oes rhywbeth y gallwch ei daflu i helpu rhywun i arnofio. Peidiwch â mynd i'r dŵr eich hun.

 

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch dŵr ewch i wefan RNLI

 

RNLIOpen Water Swimming (RNLI)
Adventure SmartOpen water swimming | AdventureSmartUK
Adventure SmartPaddle boarding Kit List | AdventureSmartUK