Pencampwyr Cadair

Ymarferion cadair! Gyda chymysgedd o ymarferion i wella symudedd a chryfder, bydd y dosbarth ymarfer corff hwn mewn cadair yn ehangu eich arferion ymarfer corff mewn ffyrdd newydd! Gan ddefnyddio bandiau gwrthiant, pwysau a'ch pwysau corff eich hun, dewch i weld beth y gallwch ei gyflawni. 

 

Cylched Esmwyth / Cylchedau i Ddechreuwyr 

Dosbarth ymarfer y corff cyfan wedi'i strwythuro'n ofalus, sy'n targedu cryfder a dycnwch heb fod yn rhy heriol. Yn addas i bawb o bob oedran a gallu, ceir arddangosiadau ymarferol drwy gydol y sesiwn, a chaiff y dosbarth ei fonitro'n ofalus er mwyn sicrhau diogelwch.

60+ Bowls 

Mae’r sesiynau’n addas ar gyfer pob gallu a bydd ein hyfforddwr yn eich tywys trwy hanfodion bowls. Gallwch gymdeithasu wrth wella'ch cyd-drefniant a’ch cydbwysedd a dysgu sgiliau newydd.

 

Cadw’n Heini Ysgafn

Dewch yn fwy actif gyda Cadw’n Heini Ysgafn! Gydag amrywiaeth eang o ymarferion corff i dynhau a chryfhau'r corff o'r pen i'r bysedd traed gan wella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd.

 

Step Fit

Dosbarth aerobeg cam wedi'i goreograffu gydag ymarferion i wella iechyd cardiofasgwlaidd a chydsymudiad! Cymerwch ‘gam’ yn y cyfeiriad cywir ar gyfer ffordd hapusach ac iachach o fywyd! 

 

Cryfder a Chydbwysedd i'r Henoed

Gadewch i ni wella cryfder a chydbwysedd yn hwyrach mewn bywyd! Hyfforddiant craidd a chydbwysedd i helpu i gadw eich cymalau'n ystwyth a gwella cryfder i helpu gyda symudedd a lleihau'r risg o gwympo.

 

Pilates i'r Henoed / Pilates 

Mae pilates i'r henoed yn canolbwyntio ar ddatblygiad cytbwys y corff drwy gryfder craidd a hyblygrwydd. Dylai'r sesiwn ymarfer corff hon eich helpu i deimlo'n llonydd, yn gytbwys ac yn adnewyddedig. 

 

F.I.T (Hyfforddiant Seibiannol Swyddogaethol) 

Gadewch i ni wella'ch cyd-drefniant, eich cydbwysedd a'chymwybyddiaeth gorfforol er mwyn osgoi anafiadau diangen. Mae hyfforddiant seibiannol swyddogaethol yn canolbwyntio ar batrymau symud pwrpasol, sydd, o ganlyniad, yn gwella gallu'r corff i weithio'n effeithiol fel uned. Nod hyfforddiant seibiannol swyddogaethol yw gwneud gweithgareddau dyddiol yn haws eu cyflawni drwy eich helpu i gryfhau, a meithrin hyder.

 

Cylchedau Campfa

Addas ar gyfer pob gallu, er mwyn gwella cydbwysedd, cryfder a ffitrwydd cardiofasgwlaidd gan ddefnyddio cyfuniad o beiriannau rhwyfo, beiciau, peiriannau rhedeg, peiriannau gwrthsafiad a phwysau rhydd yn y dosbarth hwn ar ffurf cylchedau.

 

Taith Gerdded Llesiant 

Mae Heini am Oes a Cherdded er Budd Lles Gorllewin Cymru wedi dod ynghyd i gynnig taith gerdded llesiant. Mynd allan i'r awyr agored a manteisio ar bopeth sydd gan Sir Benfro i'w gynnig. Rydym yn argymell gwisgo esgidiau cyfforddus a chadarn a dod â dillad ysgafn sy'n dal dŵr pe bai'r tywydd yn newid yn annisgwyl.

Dosbarthiadau

Ein hamserlen diweddaraf