> logo heini am oes

‘Heini am Oes’ - Cynllun hamdden egnïol i bobl dros 60 oed

Beth ydyw? 

Mae'r cynllun hamdden egnïol i bobl dros 60 oed wedi cael ei gyflwyno ledled Cymru i annog gweithgarwch corfforol a dewisiadau ffordd o fyw iach er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith pobl sydd dros 60 oed. Mae'r cynllun hwn wedi'i ariannu gan Chwaraeon Cymru, sydd wedi buddsoddi £1.3 miliwn i alluogi pobl sydd dros 60 oed yng Nghymru i fyw bywydau gwell, hwy a hapusach drwy wella'u lefelau gweithgarwch corfforol, eu hyder, eu cryfder a'u cydbwysedd. Ledled Sir Benfro, rydym wedi brandio'n cynllun o dan yr enw ‘Heini am Oes’. 

Ar gyfer pwy y mae'r cynllun?

Mae'r cynllun 'Heini am Oes' wedi ei anelu at bobl 60 oed neu'n hŷn

Mae gan ein cynllun dair prif elfen:

  1. Nod y cynllun yw cynyddu'r gweithgareddau/digwyddiadau sydd ar gael i'r gymuned 60 oed neu'n hŷn yn ei chyfanrwydd waeth beth yw lefelau presennol y gweithgareddau.
  2. Mae ganddo gysylltiad â Hamdden Sir Benfro lle mae cynnig sylfaenol ar waith yn barhaus i annog y rheini sy'n anweithgar ar hyn o bryd i ddechrau ar eu taith ymarfer corff/llesiant.
  3. Mae’n rhedeg yn y gymuned leol gan ymestyn allan i ardaloedd diarffordd o'r sir i ddarparu sbardun i'r rheini nad ydynt efallai am fynd i gyfleuster hamdden.

 

Heini am Oes – Hamdden Sir Benfro

Mae gan 'Heini am Oes' gynnig unigryw ar y cyd â Hamdden Sir Benfro sy'n cynnwys pedwar wythnos o weithgareddau am ddim, ac yna deuddeg wythnos am dâl cymorthdaledig. 

Y cynnig 16 wythnos

I fod yn gymwys ar gyfer y cynnig 16 wythnos rhaid i ddefnyddwyr gofrestru gyda Hamdden Sir Benfro. Mae hyn yn rhad ac am ddim a gellir ei wneud ar-lein neu yn eich cyfleuster agosaf. 

Mae defnyddwyr cymwys yn cael pedwar wythnos o weithgareddau am ddim, ac yna cyfnod ychwanegol o deuddeg wythnos lle codir tâl cymorthdaledig o £2.50 y sesiwn am weithgareddau.* Nid yw defnyddwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynnig 16 wythnos yn cael eu hannog i beidio â chymryd rhan yn y gweithgareddau sy’n cael eu hyrwyddo gan 'Heini am Oes' ond bydd ffioedd defnyddwyr safonol yn berthnasol. 

*telerau ac amodau:
Gall sesiynau/gweithgareddau sydd wedi'u cynnwys newid.Ni chynhwysir hyfforddiant personol a sesiynau’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn y cynnig hwn. Mae'n rhaid bodloni'r meini prawf cymhwysedd er mwyn bod yn gymwys i gael pris cymorthdaledig.

Beth sy'n cael ei gynnwys?

  • Dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp (nid yw'n cynnwys dosbarthiadau yn y dŵr)
  • Sesiwn gynefino (cyflwyniad i'r ystafell ffitrwydd)
  • Mynediad i'r Ystafell Ffitrwydd.

Pwy sy'n gymwys?

I fod yn gymwys am y cynnig 16 wythnos, mae'n rhaid i chi:

  • Fod yn ddefnyddiwr sydd wedi cofrestru gyda Hamdden Sir Benfro
  • Fod wedi cofrestru ers mis Ebrill 2021 neu heb ddychwelyd i gyfleusterau yn ystod y 12 mis blaenorol (h.y. anweithgar ar hyn o bryd)
  • Bod yn 60 oed neu'n hŷn
  • Bod yn breswylydd yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin neu Geredigion.

Beth sydd ar gael i’r holl bobl 60 oed neu'n hŷn ar draws Hamdden Sir Benfro?

  • Nofio am ddim mewn unrhyw gyfleuster Hamdden Sir Benfro bob dydd Llun
  • Mynediad am ddim i ystafelloedd ffitrwydd mewn unrhyw gyfleuster Hamdden Sir Benfro bob dydd Llun
  • Nofio am ddim ar bob adeg i unrhyw un sy’n derbyn Gwarant Credyd Pensiwn
  • Cyfraddau gostyngol ar gyfer nofio cyhoeddus a dosbarthiadau yn y dŵr ar gyfer y rheini sy’n 60 oed neu’n hŷn (nad ydynt yn derbyn Gwarant Credyd Pensiwn) o ddydd Mawrth i ddydd Sul
  • Tocyn nofio cyhoeddus chwe mis am £45 yn unig.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael i holl bobl 60 oed neu'n hŷn y tu allan i'r cynllun 'Heini am Oes', anfonwch e-bost i [javascript protected email address] neu ewch i/ffoniwch eich cyfleuster Hamdden Sir Benfro agosaf. 

 

Heini am Oes –  Cymuned 

Mae 'Heini am Oes' yn y gymuned leol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau mewn neuaddau pentref a mannau cymunedol i ddarparu'r cam cyntaf i bobl 60 oed neu'n hŷn i ymgysylltu a dod yn fwy egnïol. Mae pob sesiwn/digwyddiad y tu allan i Hamdden Sir Benfro yn agored i unrhyw un 60 oed neu'n hŷn does waeth beth yw eu lefelau gweithgarwch presennol. 

Cydweithrediadau Cymunedol 

Mae cydweithrediadau cymunedol yn rhedeg am gyfnod cyfyngedig ac yn ymddangos mewn gwahanol leoliadau tua bob tri mis. Mae'r sesiynau a gynigir yn amrywio er mwyn darparu amrywiaeth ac maent yn symud o gwmpas y sir i sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd cymaint o ardaloedd diarffordd â phosibl. Nod y cydweithrediadau hyn yw dod â'r cynllun yn uniongyrchol i'r defnyddiwr i bontio'r bwlch cychwynnol rhwng y defnyddiwr a'r gwasanaeth a gynigir. 

Grŵp Cymdeithasol 

Mae 'Heini am Oes' yn darparu grŵp cymdeithasol bob yn ail fis. Nod y grŵp hwn yw cynyddu cymdeithasu ac ymgysylltu ymhlith y gymuned 60 oed neu'n hŷn gan ddarparu man diogel i gysylltu â phobl newydd, rhoi cynnig ar bethau newydd a dysgu mwy am y cynllun ei hun a mentrau eraill ar draws y sir. Yno, mae lluniaeth am ddim, gweithgaredd blasu, y newyddion diweddaraf/diweddariadau am y cynllun a siaradwr gwadd. Mae'r sesiynau'n para am tua dwy awr ac yn cael eu cynnal mewn lleoliad cymunedol gwahanol bob deufis. 

Sut y gallaf gymryd rhan? 

Cofrestrwch ar-lein - Hamdden Sir Benfro
Ymaelodi â Hamdden Sir Benfro– Ar ôl cofrestru, os ydych yn gymwys i gael y cynnig 16 wythnos, bydd hwn yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i'ch cyfrif Hamdden Sir Benfro o fewn tri diwrnod gwaith.

Ewch i'ch cyfleuster agosaf
Ewch i ymweld â'ch canolfan Hamdden Sir Benfro leol, neu ei ffonio, i gael rhagor o wybodaeth. 

Ymunwch â'r sgwrs ar ein Grŵp Facebook

Cliciwch yma

Cysylltwch â ni

Ymholiadau e-bost  – [javascript protected email address]

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr

Tystebau

Edrychwch ar yr hyn y mae ein cyfranogwyr yn ei ddweud

Tystebau: Cliciwch yma

Dolenni allanol

Age Cymru Dyfed | Ein Gwasanaethau (www.ageuk.org.uk/cymraeg)

Mae Age Cymru Dyfed yn cynnig gwasanaethau hanfodol i bobl hŷn yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. 

Age Cymru ¦ HOPE (ageuk.org.uk)

Gwasanaeth Eirioli HOPE Age Cymru – Mae HOPE (Helping others participate and engage / Helpu eraill i gyfranogi ac ymgysylltu) yn darparu gwasanaeth eirioli ar gyfer pobl hŷn (dros 50 oed) a gofalwyr ledled Cymru.

Versus Arthritis – (accesspembrokeshire.co.uk)

Mae Versus Arthritis yn elusen sydd â'r diben o gefnogi pobl sy'n cael anawsterau â'r ffurfiau amrywiol ar arthritis. 

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) – Cysylltwyr Cymunedol

Mae Cysylltwyr Cymunedol yn cynnig cynllun benthyciad digidol gyda data i'ch helpu i fynd ar-lein gyda chymorth un i un.

Gogledd-orllewin Sir Benfro – Julie.campbell@pavs.org.uk– 07595 192 937

Gogledd-ddwyrain Sir Benfro – Nia.george@pavs.org.uk – 07929 724 689

Dwyrain Sir Benfro – Jo.brookman-lloyd@pavs.org.uk – 07595 192 933

De Sir Benfro – Mia.gillies@pavs.org.uk – 07595 192 931

Aberdaugleddau, Neyland – Kathryn.ashton@pavs.org.uk – 07568 227 811

Hwlffordd, Clarbeston Road, Camros, Y Garn – Many.lawrence@pavs.org.uk – 07568 227 812

Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia – Cherry.evans@pavs.org.uk – 07849 086 009

 

AbilityNet

Cyngor a chymorth technoleg am ddim yn eich cartref. 

Ewch â Mi Hefyd!

Mae Ewch â Mi Hefyd! (Take Me Too!) yn paru pobl sydd angen cludiant gyda rhywun sy'n mynd yn yr un cyfeiriad ac sy’n fodlon rhoi lifft iddynt. 

Span Arts

Ysbrydoli a chysylltu pobl, lleoedd a chymunedau gwledig yn greadigol. 

Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO)

Mae gwasanaethau cludiant cymunedol Sir Benfro yn helpu pobl a grwpiau nad oes ganddynt fynediad at eu cludiant eu hunain ac nad oes ganddynt neu na allant ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus confensiynol.

Bws y Ddraig Werdd – Cymdeithas Cludiant Gwledig Preseli

Mae Cymdeithas Cludiant Gwledig Preseli yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu i gefnogi’r gymuned leol ag anghenion trafnidiaeth.

Hwb Cymunedol Sir Benfro

Hwb Cymunedol Sir Benfro yw eich siop un stop eich hun ar gyfer cyngor, arweiniad, gwybodaeth a chyfeirio. Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag yw eich oedran, ble bynnag yr ydych yn byw yn y sir, darganfyddwch beth all yr Hwb ei wneud i chi. 

 

 

Heini am oes