Beth Griffiths

Clywodd Beth am ‘Heini am Oes’ drwy'r ap 'Pembs Leisure’ ac mae wedi bod yn cymryd rhan mewn ioga, pilates a chadw'n heini ysgafn, yn ogystal â defnyddio'r ystafell ffitrwydd. Mae Beth wedi bod yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn ers naw wythnos bellach a dywedodd: "Mae'r gweithgareddau'n dda ar gyfer fy iechyd a llesiant ac i gwrdd â phobl newydd. Mae fy lefelau ffitrwydd wedi gwella ac rwyf wedi bod yn defnyddio cadw’n heini ysgafn fel rhyw fath o ffisiotherapi ers i mi dorri fy nghoes a dychwelyd i ymarfer corff."Byddai Beth yn argymell y cynllun Heini am Oes i eraill!

 

Carole Puttock

Clywodd Carole am Heini am Oes ar lafar ac mae'n cymryd rhan mewn ioga ac ymarfer swyddogaethol ysbeidiol (F.I.T.). Mae Carole wedi bod yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn ers 3-6 wythnos erbyn hyn ac yn dweud: "Mae'r gweithgareddau hyn yn fy helpu i gadw'n egnïol, hyblyg a chymdeithasol. Rwyf wedi cwrdd â phobl newydd, wedi cadw'r symudiad yn fy nghymalau, ac yn teimlo'n fwy cadarnhaol. Mae Heini am Oes wedi helpu i leihau teimladau o orbryder ac iselder a byddwn bendant yn argymell y cynllun. Mae'r sesiynau wedi'u strwythuro i fod yn addas ar gyfer pob gallu ac yn llawn hwyl!"

 

Ruth Moynes

Mae Ruth wedi bod yn defnyddio'r cynllun Heini am Oes am wythnos yn unig! Dywed Ruth, "Rwyf wedi mwynhau cwrdd â phobl newydd ac wrth fy modd yn gallu mynd allan oherwydd mae wedi bod yn anodd byw ar fy mhen fy hun. Byddwn yn argymell Heini am Oes ac yn bendant wedi elwa ar ôl dilyn y cynllun/gweithgareddau sydd ar gael. 

 

Iris Williams

“Mae'r hyfforddwyr yn rhoi cyfres o ymarferion sy'n helpu i gryfhau eich corff i gyd a gallwch weithio ar eich cyflymder eich hun. Mae'r cynllun Heini am Oes wedi rhoi'r cymhelliant i fi wneud ymarfer corff gartref ac wedi helpu i wella ystum fy nghorff." Mae Iris yn cymryd rhan mewn ymarfer swyddogaethol ysbeidiol a chadw’n heini ysgafn ac yn defnyddio llyfrgell Heini am Oes drwy'r ap ‘Pembs Leisure’. Byddai Iris yn argymell y cynllun Heini am Oes i eraill. 

 

Marie Munro

“Rwy’n hoff iawn o Heini am Oes oherwydd mae'n fy helpu i gadw'n egnïol ac yn caniatáu imi gymdeithasu ag eraill yn fy ngrŵp cymheiriaid. Rwy'n teimlo'n fwy heini ac wedi colli pwysau!" Byddai Marie yn argymell y cynllun i eraill.