Rydyn ni mor falch bod eich plentyn yn ymuno â’n rhaglen gwersi nofio. Nid yn unig y mae dysgu nofio yn sgìl bywyd hanfodol, ond y mae hefyd yn gyfle i feithrin hyder, gwneud ffrindiau a chael hwyl. Er mwyn eich helpu chi a’ch plentyn i gael y gorau o’r profiad, dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod.
Cyn i chi gyrraedd
- Os mai dyma wers gyntaf eich plentyn, gall ymweld â’r ganolfan ar gyfer sesiwn nofio gyhoeddus neu fynd am dro o gwmpas ymlaen llaw ei helpu i ymgyfarwyddo.
- Mae gwisgoedd tynn (nid siorts bwrdd) yn gwneud nofio’n haws ac yn fwy cyfforddus.
- Anogir gogls a chapiau nofio, ond nid ydynt yn hanfodol.
- Osgowch fwyta awr cyn y wers.
- Ar gyfer ein nofwyr ieuengaf mewn rhai gwersi Sblash, efallai y bydd angen i riant neu warcheidwad fod gyda phlentyn yn y dŵr. Bydd hyn yn cael ei gyfleu i chi adeg ymholi / archebu.
Pan fyddwch chi’n cyrraedd
- Ymgofrestrwch yn y dderbynfa (lle bo angen) ac ewch i’r ystafelloedd newid.
- Dylai plant 8 oed ac yn hŷn ddefnyddio’r ystafelloedd newid i ddynion neu fenywod fel y bo’n briodol. Mae gan ein polisi derbyn ragor o wybodaeth am hyn.
- Mae loceri / opsiynau storio ar gael ar gyfer eich eiddo. Gofynnwn i chi beidio â gadael dillad yn y ciwbiclau nac ar feinciau.
- Cyrhaeddwch bum munud cyn i’ch gwers ddechrau, a byddwch yn barod i gwrdd a’ch athro nofio. Mwy na thebyg y bydd hyn wrth y ymyl y pwll.
Yn ystod y wers
- Mae gwersi nofio yn para 30 munud ar gyfer dosbarthiadau Sblash a Thonnau 1–3, a 40 munud ar gyfer Tonnau 4–7.
- Mae croeso i wylwyr yn ein mannau gwylio (gwiriwch yn eich canolfan hamdden chi am y manylion).
- Rhaid i unigolyn cyfrifol aros yn yr adeilad os yw eich plentyn o dan 8 oed. Gweler ein polisi derbyn llawn am ragor o wybodaeth.
- Er mwyn helpu plant i ganolbwyntio, gadewch i’r athro arwain. Gall dynnu sylw plant os rhoddir cyfarwyddiadau ychwanegol.
- Mwynhewch weld eich plentyn yn dysgu sgiliau newydd wrth gael hwyl yn ein pyllau nofio. Mae plant yn dysgu orau trwy chwarae, ac mae pob sblash yn meithrin eu hyder.
- Yn Hamdden Sir Benfro, rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel, cadarnhaol ac anogol i bob plentyn.
- Mae ein holl staff yn dilyn hyfforddiant diogelu, gan hyrwyddo parch, caredigrwydd a chynhwysiant.
- Anogir plant i wrando’n astud, dilyn cyfarwyddiadau, a thrin eraill, gan gynnwys athrawon, nofwyr eraill ac aelodau staff eraill â pharch.
- Caiff ymddygiad cadarnhaol ei ganmol a’i atgyfnerthu i feithrin hyder a mwynhad.
- Os yw ymddygiad plentyn yn achosi pryderon diogelwch neu’n tarfu’n ormodol ar y wers, bydd yr athro / athrawes yn ei reoli’n dawel ac yn briodol. Gallai hyn olygu cael sgwrs gyda’r unigolyn cyfrifol.
- Gofynnwn i rieni a gofalwyr fodelu ymddygiad parchus ym mhob maes, ac i gefnogi athrawon trwy atgyfnerthu negeseuon cadarnhaol gartref.
Ar ôl y wers
- Bydd athrawon yn dychwelyd nofwyr i’r man casglu penodedig i’w trosglwyddo’n ddiogel. Gwiriwch eich canolfan ddewisol chi am fwy o fanylion.
- Gall plant 8 oed neu’n hŷn fynd i’r ystafelloedd newid heb gwmni. Mae manylion llawn yn ein polisi derbyn
- Ar ôl newid, gwisgwch yn gynnes cyn mynd adref, yn enwedig ar ddiwrnodau oerach.
- Mae bathodynnau a thystysgrifau hawdd eu cyrchu wrth ein desgiau derbynfa ar gyfer pan fydd y cyflawniadau arbennig hynny’n digwydd.
- Mae amser ychwanegol yn y pwll yn gwneud gwahaniaeth mawr, felly manteisiwch ar unrhyw gyfle i ymuno â ni yn un o’n chwe phwll:
https://hamddensirbenfro.co.uk/ein-cynnig/nofio/
Diogelwch ac awgrymiadau ychwanegol
- Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn wedi bod i’r toiled ac wedi cael cawod gyflym cyn y wers.
- Efallai na fydd nofwyr sy’n cyrraedd mwy na phum munud yn hwyr yn gallu ymuno â’r wers.
- Os ydych chi ychydig yn hwyr i’r wers, bydd y wers yn dal i ddod i ben ar yr amser a drefnwyd.
- Ni chaniateir esgidiau o’r tu allan ar ochr y pwll.
- Gellir defnyddio cymhorthion arnofio addas (megis disgiau braich, bandiau breichiau neu wregysau arnofio). Dylai’r rhain fod yn ddiogel ac ni ddylai eich plentyn allu eu tynnu i ffwrdd yn hawdd.
- Os bydd cau pwll yn tarfu ar wersi, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ac yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein tudalen Facebook ac ap Hamdden Sir Benfro.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, bydd ein timau cyfeillgar ym mhob canolfan hamdden yn hapus i helpu. Edrychwn ymlaen at weld eich plentyn trwy ein Llwybr Dyfrol.