> swimming pool

Mae gan Hamdden Sir Benfro 6 phwll nofio.

Maen nhw'n lle perffaith i ddysgu nofio, beth bynnag yw eich oedran.

Cyfleuster hyfforddi gwych ar gyfer y digwyddiad hwnnw rydych chi'n hyfforddi ar ei gyfer.

Mae gennym gyfuniad o byllau bach a phrif byllau felly cyn gynted ag y byddwch yn barod i ddod â'ch un bach i mewn i'r dŵr, rydym yn aros amdanoch.

Mae ein pyllau'n cynnig amrywiaeth o sesiynau o sblasio gyda ffrindiau i ymarfer nofio cystadleuol ar gyfer gala.

Hefyd, rydym yn rhedeg rhaglen dysgu nofio brysur iawn, gyda dros 3200 yn cymryd rhan yn ein rhaglen ar hyn o bryd. Ein nod yw sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn hyderus yn y dŵr.

I ddarganfod mwy am rai o'r rhaglenni hyn, cymerwch gipolwg ar LTS a Pembrokeshire Aquatics