Tonnau!

Rydym yn cyflwyno Tonnau 1 i 7 yn y brif ardal ‘Dysgu Nofio’. Caiff plant o 4 oed ymlaen eu dysgu’r sgiliau nofio a dyfrol angenrheidiol i nofio ac i gyfranogi mewn gweithgareddau dyfrol eraill fel Cyw Achub Bywyd, Hoci Tanddwr, Nofio Cystadleuol a Pholo Dŵr. 

Maent hefyd yn cael dysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol lle cânt wybod sut i fod yn ddiogel mewn dŵr ac o’i gwmpas, fel nofio mewn dillad, nofio yn yr unfan a nofio heb gogls. 

Mae llaweroedd o fathodynnau a thystysgrifau i’w hennill gan gynnwys un am bob ton a bathodynnau pellter. Faint all eich plant chi eu casglu ar eu taith nofio? 

 

Ton 1 – Prif Nodau

  1. Datblygu hyder yn y dŵr.
  2. Bod yn ddiogel yn y dŵr, ac wrth fynd i mewn ac allan o’r pwll.
  3. Dysgu technegau arnofio, rhodli ac anadlu sylfaenol.
  4. Dechrau dysgu nofio ymlaen, nofio ar y cefn, nofio broga a nofio glöyn byw, gyda chymhorthion os bydd angen.

 

Ton 2 - Prif Nodau

  1. Gallu neidio i’r pwll heb gogls.
  2. Gwella technegau rhodli, arnofio ac anadlu.
  3. Llithro yn yr ystum llyfn.
  4. Pellterau byr o nofio ymlaen, nofio ar y cefn, nofio broga a nofio glöyn byw, heb gymhorthion.

 

Ton 3 - Prif Nodau

  1. Codi rhywbeth o lawr y pwll.
  2. Gwella rhodli ac arnofio.
  3. Dysgu sut i nofio yn yr unfan.
  4. Dysgu’r Cod Diogel a baneri traeth.
  5. Nofio pellterau byr yn y pedair ffordd: nofio ymlaen, nofio ar y cefn, nofio broga a nofio glöyn byw, heb gymhorthion.

 

Ton 4 - Prif Nodau

  1. Dysgu sut i wneud ciciadau dolffin tanddwr.
  2. Dysgu’r ystum HELP.
  3. Gwella technegau arnofio a nofio yn yr unfan.
  4. Gwella techneg pob un o’r 4 dull nofio.

 

Ton 5 - Prif Nodau

  1. Dysgu neidiau o wahanol siâp heb gogls.
  2. Dysgu sut i wneud trosben ymlaen a llawsafiad yn y dŵr.
  3. Gwella technegau personol rhodli a phara’n fyw.
  4. Nofio pellterau hwy ymhob un o’r pedwar dull, gan gynnwys hyd (25 metr) o’ch hoff ddull nofio.

 

Ton 6 - Prif Nodau

  1. Dysgu sut i godi gwres yn briodol ar gyfer ymarfer a pham.
  2. Dysgu sut i wneud trosben yn ôl, plymio i’r dŵr wysg y pen a phlymio ar eistedd.
  3. Gwella technegau personol para’n fyw, gan gynnwys nofio mewn dillad.
  4. Nofio pellterau hwy ymhob un o’r pedwar dull, gan ganolbwyntio ar dechneg.

 

Ton 7 - Prif Nodau

  1. Dysgu sut i blymio naid.
  2. Gwella sgiliau arnofio, rhodli, nofio yn yr unfan a chylchdroi.
  3. Nofio pellterau hwy ymhob un o’r pedwar dull a nofio Cymysgfa Unigol.
  4. Nofio fel rhan o dîm mewn ras gyfnewid.