Cryfhau Cyhyrau’r Abdomen Mae Cryfhau Cyhyrau’r Abdomen yn ddosbarth ar raddfa fawr sydd wedi'i gynllunio i gryfhau'ch cyhyrau craidd. Bydd ein hyfforddwyr profiadol yn eich harwain trwy amrywiaeth o ymarferion gwahanol ar ddwysedd amrywiol i roi'r ymarfer gorau posibl i gyhyrau eich abdomen! | Bownsio Aer Ffordd unigryw a hwyliog o ymarfer corff gan ddefnyddio esgidiau adlam sydd ar gael i'w llogi. Mae'r dosbarth hwn yn lleihau'r effaith ar gymalau, yn gwella lefelau dycnwch ac egni, ac yn llosgi 25-40% yn fwy o galorïau o’i gymharu ag ymarfer corff rheolaidd. |
Therapi Dŵr Yn fuddiol ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau corfforol ac anafiadau. Manteisiwch ar briodweddau corfforol y dŵr wrth i chi wella ac wrth wneud yr ymarferion. Mae sawl mantais o wneud ymarferion dŵr: ø cynyddu stamina cardiofasgwlaidd, cryfder a hyblygrwydd ø helpu i gael gwared ar fraster ø gwella cylchrediad ø adsefydlu cyhyrau a chymalau ø maen nhw’n llai heriol ø ymwrthedd (yn gymesur ag ymdrech) ø gwell ymdeimlad o les, gwell hwyliau ac ansawdd cwsg | Ffitrwydd Dŵr Gwnewch sblash gyda'n dosbarthiadau aerobeg dŵr! Dyma ddosbarth ffitrwydd sy’n llawn egni, yn llawn hwyl ac yn berffaith ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Wedi'i leoli yn ein pyllau nofio, mae'r dŵr yn cael ei ddefnyddio fel gwrthiant wrth berfformio symudiadau aerobig sydd wedi'u cynllunio i gael gwared ar fraster a gwella stamina. Mae'r dosbarth hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am wella lefelau eu ffitrwydd gydag ymarfer corff sy’n llai heriol. |
Sesiynau Anabledd Actif Anabledd Actif – Sesiynau nofio cyfyngedig Mae’r sesiynau ar gyfer pobl ag anableddau ynghyd â gofalwyr/aelodau o’r teulu. Maent yn sesiynau cyfyngedig sy’n golygu mai dim ond pobl gymwys sy’n gallu mynychu. Mae hyn yn galluogi ein cwsmeriaid i allu nofio heb deimlo pwysau neu feirniadaeth gan nofwyr eraill. Anabledd Actif – Campfa Easy Line Mae sesiwn agored ar gael i unrhyw un ag anabledd ynghyd â gofalwyr/aelodau o'r teulu. Mae'r sesiynau hyn yn cael eu harwain gan hyfforddwr, ac yn defnyddio offer campfa Easy Line. Mae offer Easy Line wedi’u cynllunio'n berffaith gan ddefnyddio egwyddorion biomecaneg ac ergonomeg ac felly maen nhw’n rhwydd ac yn gysurus i’w defnyddio ac yn edrych yn wych. Mae'r offer yn defnyddio pistonau hydrolig gan ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfforddus i bobl ag anghenion ychwanegol eu defnyddio. Anabledd Actif – Boccia a Bowls Dan Do Mae hon yn sesiwn agored i unrhyw un ag anableddau ddod gyda'u gofalwr/aelodau o'r teulu. Trefnir y sesiwn gan hyfforddwr yn y lawnt fowlio dan do yn y ganolfan hamdden.Mae Boccia yn gamp Baralympaidd a gyflwynwyd yn 1984. Mae athletwyr yn taflu, cicio neu'n defnyddio ramp i yrru pêl i'r cwrt gyda'r nod o fod yr agosaf at bêl 'jac', mae wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer athletwyr ag anabledd sy'n effeithio ar swyddogaeth symudiadau, ond mae ar gael i unrhyw un ag unrhyw anabledd. Anabledd Actif – Dosbarth Dawns Zumba Mae hon yn sesiwn agored i unrhyw un ag anableddau ddod gyda'u gofalwr/aelodau o'r teulu. Mae’n cael ei redeg gan ein hyfforddwyr Zumba cymwys ac mae’n sesiwn ddawns hwyliog sy’n defnyddio coreograffi Zumba ond wedi’i addasu i gyd-fynd ag anghenion pob cwsmer waeth beth fo’u hanableddau. Mae yna hefyd rai dawnsiau parti wedi'u cynnwys i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael hwyl wrth ymarfer. Anabledd Actif – Sesiwn aml-chwaraeon cynhwysol ym Maenordy Scolton Mae hwn yn agored i unrhyw un ag anableddau i fynychu gyda gofalwyr/aelodau o'r teulu. Sesiwn galw heibio yw hon, mae badminton, cyrlio, saethyddiaeth, tennis bwrdd, bowls ac amrywiaeth o chwaraeon eraill ar gael. Mae hyn yn galluogi'r cyfranogwyr i ddod a rhoi cynnig arni, nid yw'r sesiwn hon wedi'i strwythuro, ac mae croeso i bobl roi cynnig ar y chwaraeon yn eu ffordd eu hunain ac mewn amgylchedd diogel. |
Aqua Zumba® I'r rhai sy'n ceisio gwneud sblash, trwy ychwanegu dosbarth dwr sy'n ynni uchel gydag effaith isel at eu trefn ffitrwydd. Mae Aqua Zumba® yn cyfuno athroniaeth Zumba® â gwrthsefyll dŵr, ar gyfer un parti pwll na ddylech ei golli! Mae llai o effaith ar eich cymalau yn ystod dosbarth Aqua Zumba® felly gallwch chi wir adael yn rhydd. Mae dŵr yn creu ymwrthedd naturiol, sy'n golygu bod pob cam yn fwy heriol ac yn helpu i dynhau eich cyhyrau. | Gofal Cefn Bwriad y dosbarth neu’r cwrs yw gwella ystum y corff a chryfhau'r cefn. Gwneir hyn trwy amrywiaeth o ymarferion symudedd, cryfhau ac ymestyn, a fydd yn cael eu datblygu dros yr wythnosau. |
Bar a Phwysau Dosbarth hyfforddi cryfder a dycnwch cyhyrol gan ddefnyddio barbells a kettlebells. Gan ddefnyddio gwahanol ddulliau hyfforddi bob wythnos i’ch cadw ar flaenau eich traed, byddwch chi'n teimlo pob cyhyr ar ddiwedd y dosbarth hwn! Bydd derbyn cyngor a chymhelliant a gweithio ar dechneg yn eich gyrru ymlaen i’r diwedd. | Cyflyru’r Corff Mae'r dosbarthiadau cyflyru’r corff wedi'u cynllunio i wella ffyrfder y cyhyrau a cherfio'r corff i'r siâp rydych chi ei eisiau! Gan ddefnyddio offer neu bwysau eich corff eich hun ar gyfer ymwthio, mae'r ymarferion hyn yn targedu rhannau penodol o’r corff sy’n achosi problemau. |
Bootcamp Mae BOOTCAMP yn cyfuno ymarferion cardiofasgwlaidd, ymarferion pwysau corff ac ymarferion â phwysau. Mae’n cynnwys ffitrwydd ymarferol, gan ddefnyddio ymarferion corff cyfan sy’n ymarfer nifer o gymalau gwahanol. Mae pob dosbarth ychydig yn wahanol i roi amrywiaeth i’ch sesiwn ymarfer corff arferol a’ch ysgogi i roi cynnig ar rywbeth newydd. | Boxercise ™ Cymryd elfennau ffitrwydd o focsio a'u cynnwys mewn dosbarth ymarfer effeithiol i grŵp o bobl sy’n gwneud i chi eisiau mwy. Ond peidiwch â phoeni, gallwch yn sicr elwa ar fanteision bocsio heb yr elfen o gystadleuaeth (neu risgiau posibl!) |
Bocsio Cardio Bydd yr ymarfer cardio dwysedd uchel hwn yn gwneud i chi chwysu! Yn seiliedig ar symudiadau bocsio gan ddefnyddio menig bocsio wedi'u pwysoli. Mae’n cynnwys gweithio fel unigolyn ac ychydig o waith partner gyda digon o anogaeth! Trwy gynnwys ambell symudiad cardio, gan ddefnyddio bocs/gris, byddwch chi’n gadael y dosbarth yn llawn endorffinau! | Ymarferion o’r Gadair Gadewch i ni wella cryfder a chydbwysedd wrth heneiddio! Hyfforddiant ar gyfer cryfder craidd a chydbwysedd er mwyn helpu i gadw'ch cymalau'n ystwyth a gwella eich cryfder i’ch helpu i symud o gwmpas a lleihau'r risg o gwympo. |
Ymarfer Cylchol Ymarfer ysbeidiol yw hyfforddiant cylchol, gan ddilyn trefn benodol rhwng pob safle ymarfer. Gyda chymorth tipyn o anogaeth gan eich hyfforddwr! Ymarfer i’r corff cyfan sy'n dda er mwyn gwella ffitrwydd a magu cryfder cyhyrol a dycnwch. | Ymarfer Cylchol (yn y Dŵr) Ymarferion cryfder ac aerobig wedi'u hamseru gan ddefnyddio gwrthiant a hynofedd y dŵr. Yn addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn nofio, y rhai sy'n gwella o anaf, heb brofiad o ymarfer corff, neu'n edrych i wella lefelau eu ffitrwydd. |
Ymarfer Cylchol (Ysgafn) Dosbarth ymarfer i’r corff cyfan sydd wedi'i strwythuro'n ofalus, gan dargedu cryfder a dycnwch heb fod yn rhy heriol. Yn addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu, ac wedi'i fonitro'n ofalus i sicrhau diogelwch gydag esboniadau clir drwyddi draw. Cewch lawer o hwyl ac anogaeth gydag elfen gymdeithasol! | Hyfforddiant Cylchol (yn y Gampfa) Yn addas ar gyfer pobl o bob gallu, cewch wella eich cydbwysedd, cryfder, a ffitrwydd cardiofasgwlaidd gan ddefnyddio cyfuniad o rwyfwyr, beiciau, melinau traed, peiriannau gwrthiant, a phwysau rhydd yn y dosbarth cylchol hwn. |
Hyfforddiant Cylchol (NERS) Dosbarth ymarfer i’r corff cyfan sydd wedi'i strwythuro'n ofalus ar gyfer cwsmeriaid sydd yn dilyn y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, gan dargedu cryfder a dycnwch heb fod yn rhy heriol. Wedi'i fonitro'n agos er mwyn sicrhau diogelwch gydag esboniadau clir drwyddi draw. Cewch lawer o hwyl ac anogaeth gydag elfen gymdeithasol! | Cryfder Craidd ac Ymestyn Os ydych chi'n bwriadu gwella eich cryfder craidd a’ch hyblygrwydd, mae'r dosbarth hwn yn berffaith i chi. Dosbarth perffaith i gyd-fynd ag unrhyw hyfforddiant arall neu i ddechreuwyr ddechrau eich taith. Mae pob opsiwn yn cael ei gynnig. |
Cryfder a Chydbwysedd Craidd Mae’r dosbarth Cydbwysedd Craidd yn ddosbarth cymysg ar gyfer pob gallu, sy’n canolbwyntio ar gryfhau eich cyhyrau craidd, eich coesau a'ch cefn. Mae ymarfer cyhyrau o amgylch y craidd yn hanfodol er mwyn cryfhau’r corff. Mae craidd cryf yn eich gwneud chi'n well ym mhopeth a wnewch, o fywyd bob dydd i'ch hoff chwaraeon – dyma’r sylfaen sy'n cynnal popeth. Gallwch herio'ch hun yn barhaus, waeth beth fo'ch lefel ffitrwydd eich hun. | Ymarfer wrth Ddawnsio Mae ymarfer wrth ddawnsio yn ffordd hwyliog o gadw'n heini! Mae’n ymarfer aerobig ac yn amrywiol o ran dwysedd a choreograffi sy’n hawdd ei ddilyn. Dangoswch i’r byd eich bod yn ddifa wrth ddawnsio! |
Beicio Grŵp Wedi'i berfformio ar feiciau llonydd dan do, mae beicio grŵp yn ffordd wych o ddod yn ffit, colli pwysau a chynyddu cryfder a phŵer yn rhan isaf y corff. P'un a ydych chi'n feiciwr profiadol neu'n ddechreuwr llwyr, mae yna ddosbarth sy’n addas i chi! | Beicio Grŵp (My Ride) Dyma brofiad fideo gwych o Feicio Dan Do. Mae'r dosbarthiadau’n cael eu harwain o bell gan roi dull hyblyg a deniadol i ddefnyddwyr i gael profiad o Feicio Dan Do |
Hyfforddiant Ysbeidiol Dwysedd Uchel (HIIT) Ymarfer aerobig, cryfder a chyflyru i’r corff cyfan. Mae'r dosbarth hyfforddiant ysbeidiol hwn yn cyfuno hyfforddiant cryfder ar gyfer y corff cyfan gyda hyrddiau cardio dwysedd uchel wedi'u cynllunio i gyflyru’ch corff a gwella'ch dycnwch. Darperir addasiadau ar gyfer pob lefel ffitrwydd. | HITT (Cryfder Craidd) Ymarfer aerobig, cryfder a chyflyru i’r corff cyfan. Mae’r dosbarth hyfforddiant ysbeidiol hwn yn cyfuno hyfforddiant cryfder ar gyfer y corff cyfan gyda hyrddiau cardio dwysedd uchel wedi'u cynllunio i gyflyru’ch corff a gwella'ch dycnwch, gan orffen gydag ymarferion sydd wedi’u cynllunio i feithrin craidd cryf. Darperir addasiadau ar gyfer pob lefel ffitrwydd. |
HIIT (Spin) Mae'r dosbarth hwn yn cyfuno beicio grŵp a sesiwn hyfforddi ysbeidiol dwysedd uchel. Y cyfuniad perffaith i'ch cael chi i chwysu a gwella eich lefelau ffitrwydd o wythnos i wythnos. | HIIT (Camu) Mae HIIT Camu yn ddosbarth llawn egni sy'n seiliedig ar hyfforddiant ysbeidiol sy'n defnyddio pwysau'r corff a chamu. Amrywiaeth o symudiadau sydd wedi’u trefnu i gyd-fynd â’r gerddoriaeth. Yn wych ar gyfer gwella ffitrwydd a cholli braster. |
Ymarfer gyda chylchyn A wyddoch chi ei fod wedi'i brofi bod ymarfer gyda chylchyn hwla yn gallu llosgi hyd at 400 o galorïau yr awr? Dysgwch sut i ddefnyddio cylchyn hwla, llosgi calorïau a ffyrfhau eich cyhyrau yn y dosbarth hwyliog hwn! Gan ddefnyddio cyfuniad o ymarfer gyda chylchyn, ymarferion pêl swiss, sgipio a mwy, mae'r dosbarth hwn yn ffordd wych o'ch helpu i wella eich ffitrwydd a cholli pwysau wrth gael hwyl. | Kangoo Dance™ Mae Kangoo Dance yn rhaglen aerobig ddiogel, egnïol, hwyliog ac ysgogol a addysgir i gerddoriaeth. Mae’r rhaglen yn ymarferol ac yn dysgu technegau neidio effeithiol i gyfranogwyr ar gyfer gwell mwynhad ac yn atal anafiadau oherwydd straen bio-mecanyddol. Gwnewch eich hoff symudiadau dawns i gyd mewn esgidiau adlamu Kangoo Jumps, a darganfyddwch ryfeddodau adlamu! |
Cadw Heini (Ysgafn) Amrywiaeth eang o ymarferion corff i dynhau a chryfhau'r corff o'r pen i'r bysedd traed wrth wella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd. | Kettlebells Mae'r dosbarth hwn yn cyfuno ymarferion cardio a hyfforddiant cryfder i wella eich perfformiad athletaidd a chryfhau eich corff – gan ddefnyddio kettlebells a phwysau eich corff yn unig. |
Kettlercise® Kettlercise® Un darn o offer ac un nod, sef cael gwared â braster Kettlercise® yw YR ymarfer mwyaf effeithiol er mwyn cael gwared ar fraster gan ddefnyddio Kettlebell....... wedi'i gynllunio i lunio a cherfio'ch corff mewn cyn lleied ag 20 munud er mwyn cael gwared ar fraster yn gyflym ac i ffyrfhau’r corff. Mae'n hwyl, yn gyflym iawn ac yn hynod effeithiol! | BODYATTACK™ Les Mills Mae BODYATTACK™ yn ddosbarth ffitrwydd egnïol iawn gyda symudiadau sy'n addas ar gyfer dechreuwyr llwyr i’r rhai sydd wedi hen arfer. Rydym yn cyfuno symudiadau athletaidd fel rhedeg, rhagwthio a neidio gydag ymarferion cryfder fel ymarferion gwrthwasgu a sgwatiau. Bydd hyfforddwr LES MILLS™ yn chwarae cerddoriaeth fywiog ac yn eich arwain drwy’r ymarfer – gan eich herio i’r eithaf mewn ffordd gadarnhaol, a llosgi hyd at 730 o galorïau** a rhoi ymdeimlad o foddhad i chi. Mae BODYATTACK ar gael naill ai fel ymarfer 55, 45 neu 30 munud. |
BODYBALANCE™ Les Mills Yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un a phawb, BODYBALANCE™ yw'r dosbarth sy’n seiliedig ar ioga a fydd yn gwella'ch meddwl, eich corff a'ch bywyd. Yn ystod y sesiwn BODYBALANCE, bydd trac sain ysbrydoledig yn chwarae wrth i chi blygu ac ymestyn trwy gyfres o symudiadau ioga syml a chynnwys elfennau o Tai Chi a Pilates. Mae rheoli eich anadl yn rhan o'r holl ymarferion, a bydd hyfforddwyr bob amser yn cynnig opsiynau i'r rhai sydd newydd ddechrau arni. Byddwch yn cryfhau'ch corff cyfan ac yn gadael y dosbarth yn teimlo'n dawel eich meddwl ac yn gadarn. Yn hapus. Mae BODYBALANCE ar gael naill ai fel ymarfer 55, 45 neu 30 munud. | BODYPUMP™ Les Mills BODYPUMP™ yw’r dosbarth barbell gwreiddiol (THE ORIGINAL BARBELL CLASS™), yr ymarfer delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i golli pwysau, ffyrfhau eu corff a gwella eu ffitrwydd – a hynny’n gyflym. Gan ddefnyddio pwysau ysgafn i gymedrol gyda llawer o ailadrodd, mae BODYPUMP yn ymarfer y corff cyfan. Bydd yn llosgi hyd at 540 o galorïau***. Bydd hyfforddwyr yn eich arwain trwy symudiadau a thechnegau a gefnogir gan wyddoniaeth. Cynigir digon o anogaeth a chymhelliant a chwaraeir cerddoriaeth wych – gan eich helpu i gyflawni llawer mwy nag y byddech yn gallu ei wneud ar eich pen eich hun! Byddwch yn gadael y dosbarth yn teimlo eich bod wedi cael eich herio a’ch ysgogi, ac yn barod i ddod yn ôl am ragor. Mae BODYPUMP ar gael naill ai fel ymarfer 55, 45 neu 30 munud. |
Datblygu Cryfder Les Mills™ Mae LES MILLS STRENGTH DEVELOPMENT™ yn ddilyniant o 12 o ymarferion cynyddol sy'n para 45 munud. Boed yn newydd i godi pwysau neu'n brofiadol, bydd DATBLYGU CRYFDER LES MILLS yn adeiladu cyhyrau, yn gwella techneg, ac yn magu eich hyder fel y gallwch hyfforddi'n fwy pwerus yn y stiwdio ac ar lawr y gampfa. | Dewch i Gadw’n Heini Cynlluniwyd y dosbarth hwn i annog gweithgaredd er mwyn datblygu amrywiaeth o symudiadau, cael hwyl a chymdeithasu! Yn benodol ar gyfer oedolion sydd ag anabledd dysgu. Amrywiaeth o weithgareddau, chwaraeon a gemau hwyliog. |
Metafit ™ Hyfforddiant codi pwysau’r corff yw Metafit, ymarfer grŵp sy’n effeithiol ac yn rhoi canlyniadau gwych. Mae'n cynnwys hyfforddiant ysbeidiol dwysedd uchel sy'n cael gwared ar fraster ac yn parhau i wneud am 24 awr. | Y Meddwl a’r Corff (Ysgafn) Nod y dosbarth yw cydbwyso ein hiechyd corfforol ac emosiynol gan eu bod wedi'u cydblethu'n agos yn y cysylltiad, fel y’i gelwir, rhwng y meddwl a’r corff. Bydd cyfuniad ysgafn o symudiadau tai chi, Pilates ac ioga yn anelu at adeiladu hyblygrwydd a chryfder a'ch gadael yn teimlo'n dawel ac yn heddychlon. |
Omnia Offer hyfforddi amlbwrpas yw Omnia sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hyfforddi grŵp i 8 defnyddiwr a mwy ar yr un pryd, mewn gofod sydd wedi’u drefnu’n dda. | Omnia (Lefel Uwch) Dosbarth Omnia ar gyfer cyfranogwyr uwch. |
Omnia (Ysgafn) Dosbarth hyfforddi mewn grŵp bach sy’n defnyddio offer Omnia ar ddwysedd isel | Pilates Mae Pilates yn drefn gyflyru'r corff sy'n ceisio gwella hyblygrwydd, dycnwch a chydsymudiad. Mae'n gwella cylchrediad ac yn helpu i gerfio'r corff. Mae Pilates yn boblogaidd iawn ymysg athletwyr proffesiynol er mwyn meithrin craidd cryf! |
Pilates (Ffitrwydd) Ymarferion llai heriol sy'n targedu’r cyhyrau dwfn sy’n effeithio ar ystum y corff yw Ffitrwydd Pilates, gan feithrin cryfder o'r tu mewn ac ailgydbwyso'ch cyhyrau. Mae Ffitrwydd Pilates yn gwella cydbwysedd cyhyrol a chryfder ac yn gwella osgo’r corff. | Pilaticise Bwriad Pilaticise yw cryfhau’r corff mewn ffordd gytbwys, gan roi pwyslais penodol ar gryfder craidd er mwyn gwella ffitrwydd cyffredinol a llesiant. |
Ffitrwydd wrth Redeg Dosbarth gwych ar gyfer rhedwyr neu unrhyw un sy’n dymuno dechrau rhedeg. Bydd yn cynnwys cryfder a chyflyru yn ogystal ag elfennau ar wella techneg a ffitrwydd | Aerobeg Camu Dosbarth sy’n llawn egni ac yn gwneud i chi deimlo’n dda, sy’n defnyddio grisiau, pwysau ysgafn a rhythm i losgi calorïau, ffyrfhau cyhyrau, gwella cydbwysedd a chydsymudiad. Ymarfer i’ch ymennydd yn ogystal â'ch corff! |
Cryfder a Ffyrfhau Dosbarth cylched stiwdio effaith isel sy'n defnyddio kettlebells, stepiau ac ymarferion pwysau'r corff yw’r dosbarth Cryfder a Ffyrfhau. Bydd yr ymarfer hwn i’r corff cyfan yn cael gwared ar fraster, yn cynyddu ffitrwydd cardiofasgwlaidd ac yn ffyrfhau cyhyrau. Mae'r sesiwn hefyd yn cynnwys ymarferion llawr ar gyfer cyhyrau’r abdomen a chryfder craidd. | Aerobeg Camu (Ysbeidiol) Camu sylfaenol, yn union fel pe byddech yn cerdded i fyny ac i lawr y grisiau, sydd wrth wraidd Camu Ysbeidiol – ymarfer cardio i’r corff cyfan i ffyrfhau cyhyrau eich pen ôl a'ch cluniau. Mewn sesiwn ymarfer camu, gallwch ddisgwyl cyfuniad o gamau bywiog a rhythmig, gyda phatrymau sgwatio a rhagwthio i weithio’r coesau. Cyfunwch hyn gyda symudiadau fel burpees, gwrthwasgu ac ymarferion plât pwysau, a chewch ymarfer i’r corff cyfan sy’n llawn hwyl ac yn gwneud i chi deimlo'n dda. |
Cryfder a Symudedd Dosbarth arafach sy’n defnyddio pwysau’r corff ac amrywiaeth o offer i helpu i wella cryfder cyhyrol a sefydlogrwydd cymalau ar draws y corff cyfan | Ymestyn Cewch ymestyn y corff cyfan yn ystod y dosbarth ymlaciol hwn. Ei nod yw gwella hyblygrwydd i’ch cynorthwyo wrth ymarfer. |
Ymestyn a Ffyrfhau Dosbarth dwysedd isel gyda llawer o ymarferion ymestyn er mwyn helpu i wella hyblygrwydd ac ymarferion ymwrthedd er mwyn ffyrfhau pob rhan o’r corff. | Strictly FitSteps Dosbarth ffitrwydd dawns bywiog, sy’n llawn egni ac yn cynnwys eich hoff ddawnsiau o gyfres Strictly yw Fitsteps. Mae wedi’i gynllunio i roi canlyniadau ffitrwydd go iawn sy’n fesuradwy. Mae'n addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu ac nid oes angen partner arnoch. Byddwch chi'n cael cymaint o hwyl, fyddwch chi ddim hyd yn oed yn sylweddoli eich bod chi'n gwella eich ffitrwydd! |
Strictly Lladin Dosbarth dawnsio hwyliog a chyffrous i guriad Lladin bywiog. Ar gyfer dynion a menywod o bob oed. Ffordd wych o ddechrau’r penwythnos! | STRONG gan Zumba Mae STRONG gan Zumba® yn cyfuno pwysau’r corff, cyflyru’r cyhyrau, cardio a symudiadau hyfforddi plyometrig gyda cherddoriaeth wreiddiol sydd wedi’i chynllunio’n benodol i gyd-fynd â phob un symudiad. Mae pob sgwat, pob rhagwth, pob burpee yn cael ei yrru gan y gerddoriaeth, gan eich helpu chi i gwblhau’r rep olaf, ac efallai pump arall. Byddwch yn llosgi calorïau ym mhob dosbarth wrth ffyrfhau’r breichiau, coesau, cyhyrau’r abdomen a’r pen ôl. Bydd symudiadau plyometrig neu ffrwydrol fel codi’r pengliniau’n uchel, burpees, a jumping jacks yn cael eu cyfnewid â symudiadau isometrig fel rhagwthio, sgwatio, a chicbocsio. Mae hyfforddwyr STRONG gan Zumba® yn newid y gerddoriaeth a’r symudiadau’n aml er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich herio i’r eithaf. |
Hyfforddiant Suspension Dyma ddosbarth sydd wedi’i gynllunio i wella eich cryfder mewn sawl ffordd wahanol. Mae’n canolbwyntio ar ynysu gwahanol rannau o’r corff! Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau hyfforddi gan gynnwys hyfforddiant suspension, barbells, kettlebells a mwy. Os ydych chi eisiau cryfhau mewn amryw ffyrdd a chadw ar flaenau eich traed, dyma’r dosbarth i chi. | Ffitrwydd Nofio Gwella ffitrwydd, cryfder a stamina wrth weithio ar arddull a thechneg. Meistrolwch eich sgiliau yn y dŵr a nofio gyda ffrindiau mewn sesiynau sydd dan arweiniad hyfforddwr. Gwersi i oedolion mewn awyrgylch sydd ddim yn gystadleuol. |
Synrgy Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys symud o gwmpas yr orsaf ‘Synrgy’, cwblhau gwahanol ymarferion fel tynnu rhaff, neidio, defnyddio bandiau gwrthiant, kettlebells, ceblau ymwrthedd, ymarferion adlamu a llawer mwy. Bydd ymarferion yn cael eu teilwra i allu pob person a'ch nodau! | Symudiadau Tai Chi ar gyfer Lles (TMW) Mae TMW (Symudiadau Tai Chi ar gyfer Lles) yn ddilyniant o symudiadau sydd wedi'i ddatblygu'n arbennig er mwyn hyrwyddo lles corfforol ac emosiynol. Gyda gwreiddiau mewn Tai Chi a Chi Kung, mae'r dilyniant TMW yn crynhoi elfennau’r celfyddydau hyn mewn ffurf syml. Dim ond 10 munud y mae hi’n ei gymryd i gwblhau'r gyfres TMW o symudiadau ac ystumiau. Y peth gwych am TMW yw y gellir ei hymarfer wrth eistedd neu wrth sefyll, gan sicrhau bod ei fanteision ar gael i bawb. |
Ymarfer i’r Corff Cyfan Dosbarth sy’n llawn amrywiaeth er mwyn ymarfer y corff cyfan! Gan ddefnyddio cyfuniad o aerobeg, ymarferion camu, ymarferion gan ddefnyddio pwysau’r corff a dymbel, mae’r dosbarth hwn yn gwneud yn union fel mae’r enw yn ei awgrymu! | Ioga (Hatha) System a chymdeithas ymarfer corfforol yw Ioga Hatha – Asana, Ymarfer anadlu – pranayama ac ymlacio. Mae'n ffordd gynnil o reoli llif egni i greu cydbwysedd yn y corff a'r meddwl. Bydd yn eich helpu i fagu hyder, cryfder a gwella eich hyblygrwydd, eich cydsymudiad a datblygu ymdeimlad o dawelwch mewnol hefyd. |
Ioga (Nidra) Mae Ioga Nidra yn fath o fyfyrdod dan arweiniad sy’n cael ei ymarfer wrth orwedd. Yn ystod y dosbarth, caiff cyfranogwyr eu harwain i gyflwr dwfn o ymlacio ymwybodol. Mae’r ymarfer hyfryd hwn yn gwella cwsg, yn lleihau straen a phryder, ac yn helpu i feithrin ymdeimlad dwfn o heddwch. | Ioga (Pŵer) Mae Ioga Pŵer yn arddull egnïol o ioga. Byddwch yn symud trwy gyfres o ystumiau mewn ffordd ddeinamig. Mae'r ymarfer yn gweithio tuag at greu gwres mewnol, gan eich helpu i ymestyn pob un cyhyr yn eich corff. Byddwch yn datblygu stamina, cryfder ac yn cynyddu eich hyblygrwydd a'ch cydbwysedd gydag ymarfer rheolaidd. Rydym yn gorffen gyda chyfnod byr o ymlacio er mwyn amgyffred buddion y sesiwn yn llawn. |
Ioga (ar Eich Eistedd) Mae Ioga’n addas i bawb! Bydd rhwng 90% a 100% o’r dosbarth hwn yn cael ei wneud wrth eistedd ar gadeiriau, ond gyda digon o symud. Byddwch yn ymarfer y symudiadau ioga clasurol gyda’r bwriad o ofalu am y cymalau, a gwella ymwybyddiaeth o’n corff wrth symud. Mae'r dilyniannau yn addas i bawb, boed yn ddechreuwr llwyr, yn berson â gwahanol anableddau, neu’n ymarferwr profiadol– bydd pawb yn teimlo’r budd, hyd yn oed ar ôl un dosbarth! Bydd eich meddwl yn dechrau ymlacio am ychydig eiliadau ar ddechrau a diwedd pob adran. | Ioga (Vinyasa) Arddull fyfyriol o Ioga yw ioga Vini, sy’n defnyddio anadl a symudiadau cydlynol er lles y meddwl, y corff a’r ysbryd. Mae’n arwain at well ymwybyddiaeth o'r corff, cryfder a hyblygrwydd; meddwl tawelach a chysylltiad mewnol personol. Mae'r dosbarth hwn yn addas i bawb. |
Ioga (Deffro) Vinyasa Flow yw’r dosbarth hwn yn bennaf. Yr hyn sy’n nodweddiadol o’r arddull hwn o ioga yw’r ffaith bod yr ystumiau’n cael eu cysylltu â'i gilydd fel eich bod yn symud o un i'r llall, yn ddi-dor. Fel arfer, mae dosbarthiadau’n cynnig amrywiaeth o ystumiau corfforol ac nid oes dau ddosbarth byth yr un fath. Mae'r dosbarth hefyd yn cynnwys elfennau o Ioga Hatha, Ioga Yin a bob amser yn gorffen gydag ychydig funudau i ymlacio. Cyfuniad perffaith o gryfder a hyblygrwydd! | Ioga (Yin) Ioga araf yw Ioga Yin lle mae'r asanas yn cael ei gadw am hyd at 8 munud. Mae ystum y corff yn cael ei ddal am fwy o amser i gefnogi meithrin y corff, atal anafiadau a dirywiad cyffredinol. Mae Ioga Yin yn gymorth i leddfu straen, yn adfer egni, yn gwella hyblygrwydd, yn hybu cylchrediad ac yn lleihau tensiwn. Mae’n caniatáu i'n meddyliau, ein cyrff a'n henaid deimlo'n iach. Mae'r dosbarth yn fyfyrdod byw gyda chyfnod o lonyddwch ar ddiwedd y dosbarth fel ein bod yn teimlo ein bod wedi gorffwys ac yn gwella ein cwsg. |
ZUMBA (AUR) Yn berffaith ar gyfer oedolion hŷn sionc sy'n chwilio am ddosbarth Zumba® wedi'i addasu sy'n ail-greu'rsymudiadau gwreiddiol rydych chi'n eu mwynhau ond ar ddwysedd is. | Zumba® Yn cyfuno symudiadau a ddefnyddir mewn gwahanol ddawnsiau Lladin fel samba, mambo a salsa, yn ogystal â dawnsio bol, hip-hop a chrefft ymladd, i gyd wedi'u gosod i drac sain â thempo cerddoriaeth Ladin fywiog. Gyda'i gilydd, mae'r amrywiol elfennau ffitrwydd Zumba hyn yn darparu ymarferion corff rhythmig a chyffrous sy'n llawer o hwyl! |