Camu sylfaenol, yn union fel pe byddech yn cerdded i fyny ac i lawr y grisiau, sydd wrth wraidd Camu Ysbeidiol – ymarfer cardio i’r corff cyfan i ffyrfhau cyhyrau eich pen ôl a'ch cluniau. Mewn sesiwn ymarfer camu, gallwch ddisgwyl cyfuniad o gamau bywiog a rhythmig, gyda phatrymau sgwatio a rhagwthio i weithio’r coesau. Cyfunwch hyn gyda symudiadau fel burpees, gwrthwasgu ac ymarferion plât pwysau, a chewch ymarfer i’r corff cyfan sy’n llawn hwyl ac yn gwneud i chi deimlo'n dda.