> pembrokeshire leisure logo with words ymarfer grwp

BODYPUMP™ Les Mills

BODYPUMP™ yw’r dosbarth barbell gwreiddiol (THE ORIGINAL BARBELL CLASS™), yr ymarfer delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i golli pwysau, ffyrfhau eu corff a gwella eu ffitrwydd – a hynny’n gyflym. 

Gan ddefnyddio pwysau ysgafn i gymedrol gyda llawer o ailadrodd, mae BODYPUMP yn ymarfer y corff cyfan. Bydd yn llosgi hyd at 540 o galorïau***. Bydd hyfforddwyr yn eich arwain trwy symudiadau a thechnegau a gefnogir gan wyddoniaeth. Cynigir digon o anogaeth a chymhelliant a chwaraeir cerddoriaeth wych – gan eich helpu i gyflawni llawer mwy nag y byddech yn gallu ei wneud ar eich pen eich hun! Byddwch yn gadael y dosbarth yn teimlo eich bod wedi cael eich herio a’ch ysgogi, ac yn barod i ddod yn ôl am ragor. Mae BODYPUMP ar gael naill ai fel ymarfer 55, 45 neu 30 munud.