BODYATTACK™ Les Mills

Mae BODYATTACK™ yn ddosbarth ffitrwydd egnïol iawn gyda symudiadau sy'n addas ar gyfer dechreuwyr llwyr i’r rhai sydd wedi hen arfer. Rydym yn cyfuno symudiadau athletaidd fel rhedeg, rhagwthio a neidio gydag ymarferion cryfder fel ymarferion gwrthwasgu a sgwatiau. Bydd hyfforddwr LES MILLS™ yn chwarae cerddoriaeth fywiog ac yn eich arwain drwy’r ymarfer – gan eich herio i’r eithaf mewn ffordd gadarnhaol, a llosgi hyd at 730 o galorïau** a rhoi ymdeimlad o foddhad i chi.

Mae BODYATTACK ar gael naill ai fel ymarfer 55, 45 neu 30 munud.