Mae’r dosbarth Cydbwysedd Craidd yn ddosbarth cymysg ar gyfer pob gallu, sy’n canolbwyntio ar gryfhau eich cyhyrau craidd, eich coesau a'ch cefn. Mae ymarfer cyhyrau o amgylch y craidd yn hanfodol er mwyn cryfhau’r corff. Mae craidd cryf yn eich gwneud chi'n well ym mhopeth a wnewch, o fywyd bob dydd i'ch hoff chwaraeon – dyma’r sylfaen sy'n cynnal popeth. Gallwch herio'ch hun yn barhaus, waeth beth fo'ch lefel ffitrwydd eich hun.