Gwnewch sblash gyda'n dosbarthiadau aerobeg dŵr!
Dyma ddosbarth ffitrwydd sy’n llawn egni, yn llawn hwyl ac yn berffaith ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Wedi'i leoli yn ein pyllau nofio, mae'r dŵr yn cael ei ddefnyddio fel gwrthiant wrth berfformio symudiadau aerobig sydd wedi'u cynllunio i gael gwared ar fraster a gwella stamina. Mae'r dosbarth hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am wella lefelau eu ffitrwydd gydag ymarfer corff sy’n llai heriol.