Hyfforddiant Ysbeidiol Dwysedd Uchel (HIIT)
Ymarfer aerobig, cryfder a chyflyru i’r corff cyfan. Mae'r dosbarth hyfforddiant ysbeidiol hwn yn cyfuno hyfforddiant cryfder ar gyfer y corff cyfan gyda hyrddiau cardio dwysedd uchel wedi'u cynllunio i gyflyru’ch corff a gwella'ch dycnwch. Darperir addasiadau ar gyfer pob lefel ffitrwydd.
HITT (Cryfder Craidd)
Ymarfer aerobig, cryfder a chyflyru i’r corff cyfan. Mae’r dosbarth hyfforddiant ysbeidiol hwn yn cyfuno hyfforddiant cryfder ar gyfer y corff cyfan gyda hyrddiau cardio dwysedd uchel wedi'u cynllunio i gyflyru’ch corff a gwella'ch dycnwch, gan orffen gydag ymarferion sydd wedi’u cynllunio i feithrin craidd cryf. Darperir addasiadau ar gyfer pob lefel ffitrwydd.
HIIT (Spin)
Mae'r dosbarth hwn yn cyfuno beicio grŵp a sesiwn hyfforddi ysbeidiol dwysedd uchel. Y cyfuniad perffaith i'ch cael chi i chwysu a gwella eich lefelau ffitrwydd o wythnos i wythnos.
HIIT (Camu)
Mae HIIT Camu yn ddosbarth llawn egni sy'n seiliedig ar hyfforddiant ysbeidiol sy'n defnyddio pwysau'r corff a chamu. Amrywiaeth o symudiadau sydd wedi’u trefnu i gyd-fynd â’r gerddoriaeth. Yn wych ar gyfer gwella ffitrwydd a cholli braster.