Ioga (Hatha)
System a chymdeithas ymarfer corfforol yw Ioga Hatha – Asana, Ymarfer anadlu – pranayama ac ymlacio. Mae'n ffordd gynnil o reoli llif egni i greu cydbwysedd yn y corff a'r meddwl. Bydd yn eich helpu i fagu hyder, cryfder a gwella eich hyblygrwydd, eich cydsymudiad a datblygu ymdeimlad o dawelwch mewnol hefyd.
Ioga (Nidra)
Mae Ioga Nidra yn fath o fyfyrdod dan arweiniad sy’n cael ei ymarfer wrth orwedd. Yn ystod y dosbarth, caiff cyfranogwyr eu harwain i gyflwr dwfn o ymlacio ymwybodol. Mae’r ymarfer hyfryd hwn yn gwella cwsg, yn lleihau straen a phryder, ac yn helpu i feithrin ymdeimlad dwfn o heddwch.
Ioga (Pŵer)
Mae Ioga Pŵer yn arddull egnïol o ioga.Byddwch yn symud trwy gyfres o ystumiau mewn ffordd ddeinamig. Mae'r ymarfer yn gweithio tuag at greu gwres mewnol, gan eich helpu i ymestyn pob un cyhyr yn eich corff. Byddwch yn datblygu stamina, cryfder ac yn cynyddu eich hyblygrwydd a'ch cydbwysedd gydag ymarfer rheolaidd. Rydym yn gorffen gyda chyfnod byr o ymlacio er mwyn amgyffred buddion y sesiwn yn llawn.
Ioga (ar Eich Eistedd)
Mae Ioga’n addas i bawb! Bydd rhwng 90% a 100% o’r dosbarth hwn yn cael ei wneud wrth eistedd ar gadeiriau, ond gyda digon o symud. Byddwch yn ymarfer y symudiadau ioga clasurol gyda’r bwriad o ofalu am y cymalau, a gwella ymwybyddiaeth o’n corff wrth symud. Mae'r dilyniannau yn addas i bawb, boed yn ddechreuwr llwyr, yn berson â gwahanol anableddau, neu’n ymarferwr profiadol– bydd pawb yn teimlo’r budd, hyd yn oed ar ôl un dosbarth! Bydd eich meddwl yn dechrau ymlacio am ychydig eiliadau ar ddechrau a diwedd pob adran.
Ioga (Vinyasa)
Arddull fyfyriol o Ioga yw ioga Vini, sy’n defnyddio anadl a symudiadau cydlynol er lles y meddwl, y corff a’r ysbryd. Mae’n arwain at well ymwybyddiaeth o'r corff, cryfder a hyblygrwydd; meddwl tawelach a chysylltiad mewnol personol. Mae'r dosbarth hwn yn addas i bawb.
Ioga (Deffro)
Vinyasa Flow yw’r dosbarth hwn yn bennaf. Yr hyn sy’n nodweddiadol o’r arddull hwn o ioga yw’r ffaith bod yr ystumiau’n cael eu cysylltu â'i gilydd fel eich bod yn symud o un i'r llall, yn ddi-dor. Fel arfer, mae dosbarthiadau’n cynnig amrywiaeth o ystumiau corfforol ac nid oes dau ddosbarth byth yr un fath. Mae'r dosbarth hefyd yn cynnwys elfennau o Ioga Hatha, Ioga Yin a bob amser yn gorffen gydag ychydig funudau i ymlacio. Cyfuniad perffaith o gryfder a hyblygrwydd!
Ioga (Yin)
Ioga araf yw Ioga Yin lle mae'r asanas yn cael ei gadw am hyd at 8 munud. Mae ystum y corff yn cael ei ddal am fwy o amser i gefnogi meithrin y corff, atal anafiadau a dirywiad cyffredinol. Mae Ioga Yin yn gymorth i leddfu straen, yn adfer egni, yn gwella hyblygrwydd, yn hybu cylchrediad ac yn lleihau tensiwn. Mae’n caniatáu i'n meddyliau, ein cyrff a'n henaid deimlo'n iach. Mae'r dosbarth yn fyfyrdod byw gyda chyfnod o lonyddwch ar ddiwedd y dosbarth fel ein bod yn teimlo ein bod wedi gorffwys ac yn gwella ein cwsg.