Sesiynau Anabledd Actif
Anabledd Actif – Sesiynau nofio cyfyngedig
Mae’r sesiynau ar gyfer pobl ag anableddau ynghyd â gofalwyr/aelodau o’r teulu. Maent yn sesiynau cyfyngedig sy’n golygu mai dim ond pobl gymwys sy’n gallu mynychu. Mae hyn yn galluogi ein cwsmeriaid i allu nofio heb deimlo pwysau neu feirniadaeth gan nofwyr eraill.
Anabledd Actif – Campfa Easy Line
Mae sesiwn agored ar gael i unrhyw un ag anabledd ynghyd â gofalwyr/aelodau o'r teulu. Mae'r sesiynau hyn yn cael eu harwain gan hyfforddwr, ac yn defnyddio offer campfa Easy Line. Mae offer Easy Line wedi’u cynllunio'n berffaith gan ddefnyddio egwyddorion biomecaneg ac ergonomeg ac felly maen nhw’n rhwydd ac yn gysurus i’w defnyddio ac yn edrych yn wych. Mae'r offer yn defnyddio pistonau hydrolig gan ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfforddus i bobl ag anghenion ychwanegol eu defnyddio.
Anabledd Actif – Boccia a Bowls Dan Do
Mae hon yn sesiwn agored i unrhyw un ag anableddau ddod gyda'u gofalwr/aelodau o'r teulu. Trefnir y sesiwn gan hyfforddwr yn y lawnt fowlio dan do yn y ganolfan hamdden.Mae Boccia yn gamp Baralympaidd a gyflwynwyd yn 1984. Mae athletwyr yn taflu, cicio neu'n defnyddio ramp i yrru pêl i'r cwrt gyda'r nod o fod yr agosaf at bêl 'jac', mae wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer athletwyr ag anabledd sy'n effeithio ar swyddogaeth symudiadau, ond mae ar gael i unrhyw un ag unrhyw anabledd.
Anabledd Actif – Dosbarth Dawns Zumba
Mae hon yn sesiwn agored i unrhyw un ag anableddau ddod gyda'u gofalwr/aelodau o'r teulu. Mae’n cael ei redeg gan ein hyfforddwyr Zumba cymwys ac mae’n sesiwn ddawns hwyliog sy’n defnyddio coreograffi Zumba ond wedi’i addasu i gyd-fynd ag anghenion pob cwsmer waeth beth fo’u hanableddau. Mae yna hefyd rai dawnsiau parti wedi'u cynnwys i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael hwyl wrth ymarfer.
Anabledd Actif – Sesiwn aml-chwaraeon cynhwysol ym Maenordy Scolton
Mae hwn yn agored i unrhyw un ag anableddau i fynychu gyda gofalwyr/aelodau o'r teulu. Sesiwn galw heibio yw hon, mae badminton, cyrlio, saethyddiaeth, tennis bwrdd, bowls ac amrywiaeth o chwaraeon eraill ar gael. Mae hyn yn galluogi'r cyfranogwyr i ddod a rhoi cynnig arni, nid yw'r sesiwn hon wedi'i strwythuro, ac mae croeso i bobl roi cynnig ar y chwaraeon yn eu ffordd eu hunain ac mewn amgylchedd diogel.