> pembrokeshire leisure logo with words ymarfer grwp

Dosbarth ffitrwydd dawns bywiog, sy’n llawn egni ac yn cynnwys eich hoff ddawnsiau o gyfres Strictly yw Fitsteps. Mae wedi’i gynllunio i roi canlyniadau ffitrwydd go iawn sy’n fesuradwy. Mae'n addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu ac nid oes angen partner arnoch.

Byddwch chi'n cael cymaint o hwyl, fyddwch chi ddim hyd yn oed yn sylweddoli eich bod chi'n gwella eich ffitrwydd!