Mae STRONG gan Zumba® yn cyfuno pwysau’r corff, cyflyru’r cyhyrau, cardio a symudiadau hyfforddi plyometrig gyda cherddoriaeth wreiddiol sydd wedi’i chynllunio’n benodol i gyd-fynd â phob un symudiad. Mae pob sgwat, pob rhagwth, pob burpee yn cael ei yrru gan y gerddoriaeth, gan eich helpu chi i gwblhau’r rep olaf, ac efallai pump arall.
Byddwch yn llosgi calorïau ym mhob dosbarth wrth ffyrfhau’r breichiau, coesau, cyhyrau’r abdomen a’r pen ôl. Bydd symudiadau plyometrig neu ffrwydrol fel codi’r pengliniau’n uchel, burpees, a jumping jacks yn cael eu cyfnewid â symudiadau isometrig fel rhagwthio, sgwatio, a chicbocsio. Mae hyfforddwyr STRONG gan Zumba® yn newid y gerddoriaeth a’r symudiadau’n aml er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich herio i’r eithaf.