Mae TMW (Symudiadau Tai Chi ar gyfer Lles) yn ddilyniant o symudiadau sydd wedi'i ddatblygu'n arbennig er mwyn hyrwyddo lles corfforol ac emosiynol. Gyda gwreiddiau mewn Tai Chi a Chi Kung, mae'r dilyniant TMW yn crynhoi elfennau’r celfyddydau hyn mewn ffurf syml. Dim ond 10 munud y mae hi’n ei gymryd i gwblhau'r gyfres TMW o symudiadau ac ystumiau. Y peth gwych am TMW yw y gellir ei hymarfer wrth eistedd neu wrth sefyll, gan sicrhau bod ei fanteision ar gael i bawb.