Ymarfer Cylchol

Ymarfer ysbeidiol yw hyfforddiant cylchol, gan ddilyn trefn benodol rhwng pob safle ymarfer. 

Gyda chymorth tipyn o anogaeth gan eich hyfforddwr!

Ymarfer i’r corff cyfan sy'n dda er mwyn gwella ffitrwydd a magu cryfder cyhyrol a dycnwch. 

 

Ymarfer Cylchol (yn y Dŵr)

Ymarferion cryfder ac aerobig wedi'u hamseru gan ddefnyddio gwrthiant a hynofedd y dŵr. Yn addas ar gyfer pobl o bob gallu, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn nofio, y rhai sy'n gwella o anaf, heb brofiad o ymarfer corff, neu'n edrych i wella lefelau eu ffitrwydd.

 

Ymarfer Cylchol (Ysgafn)

Dosbarth ymarfer i’r corff cyfan sydd wedi'i strwythuro'n ofalus, gan dargedu cryfder a dycnwch heb fod yn rhy heriol. Yn addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu, ac wedi'i fonitro'n ofalus i sicrhau diogelwch gydag esboniadau clir drwyddi draw. Cewch lawer o hwyl ac anogaeth gydag elfen gymdeithasol!

 

Ymarfer Cylchol (yn y Gampfa)

Yn addas ar gyfer pobl o bob gallu, cewch wella eich cydbwysedd, cryfder, a ffitrwydd cardiofasgwlaidd gan ddefnyddio cyfuniad o rwyfwyr, beiciau, melinau traed, peiriannau gwrthiant, a phwysau rhydd yn y dosbarth cylchol hwn.

 

Ymarfer Cylchol (NERS)

Dosbarth ymarfer i’r corff cyfan sydd wedi'i strwythuro'n ofalus ar gyfer cwsmeriaid sydd yn dilyn y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff, gan dargedu cryfder a dycnwch heb fod yn rhy heriol. Wedi'i fonitro'n agos er mwyn sicrhau diogelwch gydag esboniadau clir drwyddi draw. Cewch lawer o hwyl ac anogaeth gydag elfen gymdeithasol!