Chwilio am ffordd hwyliog, egnïol o dreulio amser gyda'ch gilydd yr haf hwn?
Ymunwch â ni ar gyfer ein sesiynau newydd sbon Acwa-ffit i’r Teulu - ymarfer corff bywiog, effaith isel yn y dŵr wedi'i gynllunio i blant ac oedolion fel ei gilydd ei fwynhau!

 

Pwy all ymuno?

  • Plant 6+ oed (rhaid  i riant/gwarcheidwad fod yn bresennol gyda’r plant) 
  • Gall plant 8+ oed fynychu ar eu pen eu hunain
  • Croeso i rieni, gwarcheidwaid, neu unigolion gymryd rhan ar eu pennau eu hunain hefyd!

 

Pryd: Bob dydd Llun – o 28 Gorffennaf i 18 Awst
Amser: 11 AM – 11:45 AM
Ble: Pyllau amrywiol (tymheredd 27°C cyfforddus)
Dyfnder: 1.0metr i 1.4metr

Byddwch yn barod i sblasio, symud a chwerthin gyda'ch gilydd mewn sesiwn llawn hwyl sy'n gwella ffitrwydd a chydlyniad – perffaith ar gyfer dechreuwyr a phob lefel gallu.

Os ydych chi'n archebu drwy'r ap, gallwch ddod o hyd i'r archeb o dan archebu nawr > Pwll > Gweithgareddau Gwyliau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu pob person yn unigol! I archebu drwy ein ap bydd angen i chi allgofnodi o'ch cyfrif ac yna mewngofnodi fel eich plentyn. Os oes angen cymorth arnoch i fewngofnodi ac angen mynediad at eich PIN, cysylltwch â'r ganolfan hamdden. Gallwch hefyd archebu drwy ein gwefan neu ein ffonio ar 01437 776676.