Rydym yn cynnig sesiynau ar draws y Sir gyda chymhorthdal gan Lywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod nofio yn hygyrch i bawb. Ar gyfer plant 19 oed ac iau yn ein 6 phwll rydym yn cynnig:
1 sesiwn Nofio am Ddim* bob penwythnos ym mhob un o Byllau Nofio Hamdden Sir Benfro (gweler isod am fanylion)
Tocyn Nofio 12 mis am £48.00.
*er mwyn bod yn gymwys i nofio am ddim rhaid i bob unigolyn gofrestru gyda Hamdden Sir Benfro (telerau ac amodau yn berthnasol)
| Enw'r ganolfan | Dyddiad ac amser y sesiwn |
| Crymych | Dydd Sadwrn 11:30yb - 12.30yp |
| Abergwaun | Dydd Sadwrn 1.00yp - 2.00yp |
| Hwlffordd | Dydd Sul 9.00yb - 10.00yb (Ac eithrio dydd Sul 12fed Ebrill, bydd y sesiwn AM DDIM ar gael ddydd Sadwrn 11eg Ebrill yn lle hynny) |
| Aberdaugleddau | Dydd Sadwrn 11.00yb - 12.00yp |
| Penfro | Dydd Sadwrn 11:00yb - 11:55yb |
| Dinbych-y-pysgod | Dydd Sadwrn 12.00yp - 1.00yp |
Cyfeiriwch at y polisi archebu isod cyn archebu.