Ym mis Gorffennaf, cyn i wyliau'r haf ddechrau, roeddem eisiau cynnig sesiynau diogelwch dŵr AM DDIM i'ch paratoi ar gyfer y dyddiau braf hynny ar y traeth.
Mae gwybod sut i fod yn ddiogel mewn dŵr ac o'i gwmpas yn bwysig i bawb ac rydym yma i helpu.
Bydd y sesiynau hyn yn cael eu harwain gan hyfforddwr, yn ein pyllau nofio a byddant yn llawn awgrymiadau defnyddiol.
Trefnwch eich slot trwy'r ap neu ar-lein.
Gallwch drefnu o ddydd Llun 26 Mehefin
Crymych:
Dydd Sadwrn 8,15,22 Gorffennaf 10.00am-11.00am
Abergwaun:
Dydd Sadwrn 8 a 22 Gorffennaf 2.00pm - 3.00pm
Hwlffordd:
Dydd Sul 9, 16 a 23 Gorffennaf 9.00am - 10.00am
Aberdaugleddau:
Dydd Sul 16,23,30 Gorffennaf 11.30am-12.30pm
Penfro:
Dydd Sul 9, 16 a 23 Gorffennaf 12.00pm - 1.00pm
Dinbych-y-pysgod:
Dydd Sul 9, 23 Gorffennaf 10.00am-11.00am