Ydych chi’n chwilio am barti pwll a fydd yn cadw pawb yn hapus? Mae ein parti fflotiau a hwyl yn ffordd wych i nofwyr a rhai nad ydynt yn nofio fwynhau parti pwll gyda’i gilydd. Byddwn yn rhoi’r fflotiau i gyd yn y dŵr fel y gall eich plantos chwarae a bod wrth eu bodd.

Archebwch un o’r CHWE chyfarpar chwyddadwy ym mhyllau Hamdden Sir Benfro:

Spike Island yng Nghanolfan Hamdden Crymych

Demolition Bridge yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun

Y Malwr yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd

Street Style yng Nghanolfan Hamdden Aberdaugleddau

Crazy Cammo yng Nghanolfan Hamdden Penfro

Y Gremlin yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod

Dewiswch eich ffefryn a gwahoddwch eich ffrindiau am yr her! Rydym yn edrych ymlaen at weld y lluniau!