Cyfres Insport Chwaraeon Anabledd Cymru

Ar 26 Hydref 2024, bydd Chwaraeon Anabledd Cymru yn cynnal cyfle gwych i bobl anabl 5 oed neu hŷn.  

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal gan Ceredigion Actif yng Nghanolfan Hamdden Teifi rhwng 10am ac 1pm. Gall cyfranogwyr fwynhau amrywiaeth o chwaraeon, gan gynnwys:

  • Ffensio  
  • Boccia
  • Pêl-fasged Cadair Olwyn
  • Rygbi Cadair Olwyn
  • Pêl-droed  
  • Saethyddiaeth
  • Sgarlets
  • Cattlestrength (Ffitrwydd)

 

Gweler poster llawn y digwyddiad drwy glicio yma (pdf)  

 

Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth ac i archebu lle.