Cwestiynau Cyffredin Heini am Oes
C) A oes angen bod yn aelod er mwyn cymryd rhan?
A) Oes, ar gyfer gweithgareddau o dan adain Hamdden Sir Benfro. Mae'n bosibl na fydd rhaid i chi fod yn aelod cofrestredig ar gyfer gweithgareddau a gynigir gan bartneriaid allanol ond gall gweithgareddau amrywio.
C) Rwy'n meddwl fy mod wedi cofrestru'n barod gyda Hamdden Sir Benfro; sut mae modd cael mynediad at ap Pembs Leisure?
A) Lawrlwythwch yr ap 'Pembs Leisure' o'ch siop apiau symudol a dewiswch eich canolfan hamdden ddewisol o'r rhestr o safleoedd. Os ydych yn aelod yn barod, dilynwch y ddolen hon, Cewch eich manylion mewngofnodi, i dderbyn eich manylion mewngofnodi. Ar ôl derbyn eich manylion mewngofnodi, llywiwch i'r adrannau 'HSB Fyw' neu ‘HSB Unrhyw Bryd’ o’r ap i gael mynediad at ein dosbarthiadau sy'n cael eu ffrydio'n fyw ac i'n llyfrgell Heini am Oes.
Cysylltwch ag [javascript protected email address] am ragor o gymorth.
C) A fydd y sesiynau'n cael eu cynnig yn fy nghanolfan hamdden leol?
A) Byddant. Bydd Heini am Oes yn hybu gweithgareddau i bobl dros 60 oed ar draws holl gyfleusterau Hamdden Sir Benfro.
C) Os wyf yn adnabod rhywun sydd eisiau ymuno, sut allaf gael nhw i gymryd rhan?
A) Er mwyn cymryd rhan, gallwch anfon e-bost at [javascript protected email address] neu, fel arall, gallwch ffonio neu ymweld â'ch cyfleuster hamdden lleol am fwy o wybodaeth.
Dewch o hyd i'ch canolfan hamdden agosaf yma.
C) Nid wyf yn gamster ar y rhyngrwyd. A oes modd derbyn cymorth i fynd ar-lein a chael mynediad at y gwasanaethau hyn?
A) Oes, mae nifer o wasanaethau cymorth ar gael. Gellir dod o hyd i'r rhain yn yr adran dolenni allanol ar y dudalen we flaenorol.
C) A oes angen i mi gael fy atgyfeirio i gael mynediad i'r cynllun hwn?
A) Nac oes, mae pawb sy'n 60 oed a throsodd ac yn ddefnyddiwr sydd newydd gofrestru gyda Hamdden Sir Benfro yn gallu cael mynediad at y cynllun hwn.
C) A oes tâl ar gyfer cymryd rhan yn y cynllun hwn?
A) Mae'r cynllun yn RHAD AC AM DDIM am yr wyth wythnos gychwynnol a £2.50 y sesiwn ar gyfer yr wyth wythnos ddilynol ar gyfer defnyddwyr cymwys.