Mae'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn ein neuadd chwaraeon ac yn cynnwys Playzone* (neu gastell bownsio), Miri Meddal a theganau. Mae'r sesiynau yn wych i'r plant losgi rhywfaint o egni.
Mae staff yn bresennol ond nid oes strwythur i’r sesiynau. Bydd staff wrth law i oruchwylio, rhoi cymorth ac ymuno yn yr hwyl.
Lleoedd cyfyngedig - Nid yw archebu lle yn hanfodol ar gyfer ein gweithgareddau ond byddwch yn ymwybodol bod lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
* Ardal gaeëdig sydd ag offer wedi'i lenwi ag aer yw Playzone, sy'n cynnwys offer miri meddal a llithren. Gwiriwch isod am restr o'r hyn fydd ar gael ym mhob canolfan.
Sut i gadw lle:
Byddwn yn agor lleoedd ar gyfer cadw lle ymlaen llaw ar gyfer ein gweithgareddau ond peidiwch â phoeni, bydd lleoedd ar y diwrnod*
*Ar y diwrnod byddwch yn cadw lle ar sail y cyntaf i'r felin
Gwybodaeth am y ganolfan:
Abergwaun:
Playzone
Hwlffordd, Crymych, Aberdaugleddau, Penfro a Dinbych-y-pysgod:
Castell bownsio
Neuadd Chwaraeon Tyddewi:
Bydd offer chwarae, ond nid offer wedi'i lenwi ag aer.
Enw Canolfan | Dyddiad ac amser y sesiwn |
Crymych | Dydd Llun 28 Hydref 10.00yb - 12.00yp Dydd Iau 31 Hydref 1.00yp - 3.00yp |
Abergwaun | |
Tyddewi | TBC |
Hwlffordd | TBC |
Aberdaugleddau | |
Penfro | |
Dinbych-y-pysgod |