Mis Ymwybyddiaeth o Golesterol

Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth o Golesterol, i’ch atgoffa bod cadw lefelau colesterol dan reolaeth yn hanfodol ar gyfer iechyd y galon.

Sylwedd naturiol yn eich gwaed yw colesterol. Mae ei angen ar eich corff, ond gall cael gormod o golesterol “drwg” (LDL) gynyddu’r risg o glefyd y galon. 

Gall gweithgarwch rheolaidd wella lefelau colesterol a chryfhau eich calon. Gall dim ond 30 munud o weithgarwch y dydd helpu i wneud gwahaniaeth.

Gall ymarferion cardio fel cerdded, beicio a nofio helpu i reoli lefelau colesterol. Gall hyfforddiant cryfder helpu i gynnal metaboledd a chynnal pwysau iach. 

Yn Hamdden Sir Benfro, rydym yn darparu’r canlynol:

  • Offer campfa modern ar gyfer ymarferion cardio a chryfder
  • Hyfforddwyr campfa 1:1 i deilwra cynlluniau ymarfer corff o amgylch eich anghenion
  • Dosbarthiadau ymarfer corff grŵp ar gyfer pob lefel ffitrwydd
  • Pyllau nofio ar gyfer ymarfer corff llai heriol
  • Amrywiaeth o gyfleusterau eraill, gan gynnwys chwaraeon raced, traciau rhedeg a lleiniau chwarae
  • Mentrau i helpu i sicrhau bod unigolion o bob oed a gallu yn symud
  • Cymuned gefnogol i’ch cadw chi ar y trywydd iawn!

 

Cymerwch gipolwg drwy’r dolenni isod i ddarganfod beth sydd o ddiddordeb i chi, a dechreuwch heddiw!