Bob mis Tachwedd, mae Tashwedd, neu ‘Movember’, yn annog sgyrsiau ynghylch iechyd dynion, gan ganolbwyntio’n benodol ar lesiant meddwl. Mae’n ein hatgoffa bod gofalu am ein meddwl yn bwysig, a bod ceisio cefnogaeth, siarad ag eraill a chysylltu’n gymdeithasol yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Er bod codi ymwybyddiaeth yn allweddol, mae yna ffyrdd ymarferol o gefnogi eich llesiant hefyd. Gall ymarfer corff fod yn un opsiwn i helpu i reoli straen, codi hwyliau a chreu trefn arferol – ond dim ond un ffordd o ofalu amdanoch eich hun o nifer yw hon.
Sut allwn ni helpu
Rydym ni yn Hamdden Sir Benfro yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i symud os ydych am wneud hynny:
- Ymarferion campfa i fagu cryfder a hyblygrwydd
- Nofio am ffordd lai heriol o deimlo’n egnïol
- Dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp sy’n gymdeithasol ac yn ysgogol
- Chwaraeon raced a thraciau rhedeg i gael hwyl ac amrywiaeth
- Sesiynau campfa 1:1 gyda hyfforddwyr i greu cynllun personol sy’n addas i chi
Gall ymuno ag eraill i wneud gweithgaredd hefyd eich helpu i deimlo’n gysylltiedig a’ch bod yn cael eich cefnogi, p’un a ydych chi’n mynychu dosbarth, yn chwarae chwaraeon neu’n cwrdd â ffrindiau i ymarfer corff.
Gwnewch hwn yn Dashwedd i chi
A hithau’n fis Tashwedd, cymerwch amser i wirio eich bod chi ac eraill yn iawn. Codwch eich llais, rhannwch sut rydych chi’n teimlo ac archwiliwch ffyrdd o gefnogi eich iechyd meddwl – boed hynny’n cymdeithasu, yn gwneud ymarfer corff neu’n ddull arall sy’n gweithio i chi.
Eisiau gwybod mwy am fis Tashwedd, cefnogi’r ymgyrch, neu gyfrannu? Ewch i’r wefan swyddogol:
Dangoswch i ni sut rydych chi’n cymryd rhan! Rhannwch eich sesiynau ymarfer corff a thagiwch ni fel y gallwn ddathlu’r camau rydych chi’n eu cymryd tuag at lesiant.
@PembrokeshireLeisure #Movember